Dylai pobol ifanc 16 ac 17 oed gael cymryd rhan mewn unrhyw refferendwm a all ddod ar Brexit, yn ôl Syr Vince Cable.

Cafodd y bleidlais yn 2016 ei gorfodi ar bobol ifanc ar draul eu dyfodol, meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn rali yn galw am refferendwm yn Newcastle.

Galwodd hefyd am ddyfarnwr a fyddai’n rhwystro “celwyddau 2016” rhag cael eu hailadrodd mewn pleidlais newydd.

“Mae rhai yn dweud y byddai Pleidlais y Bobol yn achosi helynt ac y byddai holl gelwyddau 2016 yn cael eu hailadrodd. Rhaid inni fod yn barod am hynny.

“Mae arnom angen dyfarnwr a all edrych ar beth mae ymgyrchwyr yn ei ddweud, a gwirio’r ffeithiau yn drylwyr.

“Mae Brexit wedi cael ei orfodi ar bobol ifanc ar draul eu dyfodol.

“Yr mae gen i eisiau’u weld pan gawn ni Bleidlais y Bobol fydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael cymryd rhan.”