Parhau’n ddirgelwch mae marwolaeth gŵr a gwraig o Burnley yn Sir Gaerhirfyn ar wyliau yn yr Aifft.

Yn ôl eu merch, Kelly Ormerod, mae “rhywbeth amheus” ynghylch marwolaeth John a Susan Cooper yn Hurghada ar lan y Môr Coch.

Penderfynodd y cwmni teithio Thomas Cook symud eu holl gwsmeriaid o’r gwesty ddoe (dydd Gwener) yn sgil yr ansicrwydd.

Dywed awdurdodau yn yr Aifft, fodd bynnag, nad oes unrhyw arwyddion o nwyon gwenwynig yn gollwng yn ystafell y cwpwl, a’u bod nhw’n disgwyl am ganlyniadau fforensig archwiliad o samplau o’u cyrff.

Fe fu farw John Cooper, 69 oed, yn ei ystafell yn y gwesty, a bu farw ei wraig 63 oed o fewn dyddiau wedyn mewn ysbyty.

Dywed Kelly Ormod fod ei rheini yn holliach cyn mynd ar eu gwyliau ac yn dal yn iach oriau cyn cael eu taro’n wael.

“Fe welais i’r ddau yn marw o flaen fy llygaid ac roedd ganddyn nhw union yr un symptomau,” meddai.

“Dw i’n credu bod rhywbeth amheus wedi digwydd yn y stafell honno a achosodd iddyn nhw gael eu cymryd oddi arnom.”

Dywed Thomas Cook y bydd yn cysylltu â chwsmeriaid sydd wedi trefnu aros yn y gwesty yn y pedair wythnos nesaf i gynnig dewisiadau eraill iddyn nhw.