Pensiynwraig 73 blwydd oed yw’r canfed person i gael ei llofruddio yn Llundain eleni.
Cafodd corff y ddynes ei ddarganfod wedi i’w thŷ gael ei losgi yn ulw, ac mae heddlu’n credu iddi gael ei lladd mewn ymosodiad.
Er nad yw’r Heddlu Metropolitan wedi adnabod y corff yn ffurfiol, maen nhw’n ffyddiog mai Carole Harrison yw hi.
Cafodd swyddogion eu galw i’r tân ar Mays Road, Teddington, Llundain, toc wedi un y bore ar ddydd Mercher (Awst 22).
Er bod archwiliad post-mortem wedi’i gynnal, does dim sicrwydd hyd yma ynglŷn â sut y bu iddi farw. Mae Scotland Yard yn apelio am wybodaeth.
Daw ei marwolaeth yn sgil cyfres o ymosodiadau yn y ddinas, ac wrth i bryderon gynyddu am allu heddlu i ddelio â’r llif o droseddau treisgar.