Fe fydd cwmni gwyliau Thomas Cook yn symud gwesteion o westy yn yr Aifft yn dilyn marwolaeth cwpl o Brydain.

Fe fu farw John a Susan Cooper, o Burnley, Swydd Gaerhirfryn tra roedden nhw ar wyliau yn ardal Hurghada yn y Môr Coch.

Roedd y cwpl wedi bod yn aros yng Ngwesty’r Steigenberger Aqua Magic yn yr ardal.

Dywedodd Thomas Cook y byddai’n cynnig gwestyau eraill i gwsmeriaid yn Hurghada o ddydd Gwener yn ogystal â rhoi’r dewis iddyn nhw ddychwelyd adref.

Yn ôl llefarydd nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd marwolaethau’r cwpl ond eu bod wedi derbyn cynnydd mewn adroddiadau am achosion o salwch ymhlith gwesteion.

Ychwanegodd mai diogelwch yw “prif flaenoriaeth” y cwmni a’u bod fel rhagofal wedi cymryd y penderfyniad i symud eu holl gwsmeriaid o’r gwesty.

Cafodd asesiad o westy’r Steigenberger Aqua Magic ei gynnal gan Thomas Cook ym mis Gorffennaf eleni gan dderbyn sgôr o 96%.

Dywed Thomas Cook eu bod yn gweithio’n agos gyda’r gwesty ac yn rhoi cymorth i’r awdurdodau gyda’u hymchwiliad.