Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur alw am sefydlu treth newydd i ariannu newyddiaduraeth, wrth draddodi darlith yn ddiweddarach heddiw.

Yn ystod ei anerchiad yng Ngŵyl Deledu Caeredin, bydd Jeremy Corbyn yn egluro mai cwmnïau technoleg – gan gynnwys Google, Facebook ac Amazon – fydd yn cael eu targedu gan y dreth.

A bydd yn datgan y gallai’r arian yma gael ei drosglwyddo i gronfa arbennig, a fyddai’n hybu newyddiaduraeth.

“Fe allwn ariannu’r cyfryngau ‘diddordeb cyhoeddus’ trwy gymryd arian oddi wrth y monopolïau digidol sy’n elwa o’n gweithredoedd ar-lein,” bydd Jeremy Corbyn yn dweud.

“Daeth Google â’r gweisg yn Ffrainc a Gwlad Belg i ryw fath o gytundeb.

“Os na allwn wneud rhywbeth tebyg yma, ond ar lefel fwy uchelgeisiol, bydd yn rhaid i ni ystyried yr opsiwn o gyflwyno treth ar fonopolïau digidol i greu cronfa ar gyfer cyfryngau ‘diddordeb cyhoeddus’.”

Trwydded deledu

Bydd Jeremy Corbyn hefyd yn galw am newidiadau i’r ffordd mae ffi’r drwydded deledu yn cael ei dalu, a’n cael ei fwydo yn ôl i’r BBC.

Un syniad fydd yn cael ei gynnig, yw bod cwmnïau technoleg yn cyfrannu arian mewn modd a fyddai’n lleihau cost y drwydded deledu i bobol ar lawr gwlad.

Syniad arall yw bod corff newydd annibynnol yn cael ei sefydlu i osod cost y drwydded deledu. Bydd yr Arweinydd hefyd yn galw bod ‘dosbarth economaidd’ staff BBC yn cael ei gyhoeddi.