Mae cynllun newydd i droi Swyddfa’r Post yn gwmni cydweithredol wedi cael ei ddatgelu gan y Llywodraeth heddiw.

Yn ôl gweinidogion, byddai’r cynllun yn rhoi llais i is-bostfeistri, cwsmeriaid a hyd yn oed cymunedau wrth redeg  Swyddfa’r Post, gan gynnwys rhoi llais iddyn nhw mewn penderfyniadau fel penodi cyfarwyddwyr.

Wrth lansio ymgynghoriad ar y cynllun, dywedodd gweinidogion y gallai Swyddfa’r Post fod yn gwmni cydweithredol mor fuan ag erbyn diwedd y llywodraeth bresennol.

Daw’r cynlluniau diweddaraf am ddyfodol Swyddfa’r Post wedi cyhoeddiad dadleuol yn gynharach bod angen preifateiddio rhwydwaith llythyru y Post Brenhinol er mwyn diogelu ei ddyfodol.

Mae’r ymghynghoriad ar greu cwmni cydweithredol yn deillio o adroddiad yn gynharach eleni gan y Co-operatives UK, a ddaeth i’r casgliad y dyliai corff cydweithredol, fel cwmni neu gwmni gydweithredol gael ei sefydlu, gydag aelodau’r corff hwnnw yn cynnwys staff a chwsmeriaid.

Gyda chynllun o’r fath, fe fyddai’r llywodraeth yn trosglwyddo perchnogaeth o Swyddfa’r Post i’r corff cydweithredol, ac aelodau’r corff hwnnw yn cael llais wrth benodi pobol i’r bwrdd, ac yn cael cyfrandaliadau yn yr elw.

Yn ôl y Gweinidog ar Faterion Llythyrru, Edward Davey, mae Swyddfa’r Post “wrth galon ein cymunedau ac rydw i yn benderfynnol o wneud yn siwr ei fod yn mynd i fod yn fusnes llwyddiannus a phroffidiol.

“Gyda hynny mewn golwg, rydyn ni eisiau archwilio sut y gallai pobol â diddordeb yn Swyddfa’r Post gael llais go iawn yn y modd y mae’n cael ei redeg.

“Mae’r ymgynghoriad, Adeiladu Swyddfa Bost Cydweithredol (Building a Mutual Post Office), sydd wedi ei gyhoeddi heddiw, yn gosod yr opsiynnau gwahanol ynglŷn â sut y gallwn ni alluogi is-bostfeistri, staff, cwsmeriaid Swyddfa’r Post, a’r cymunedau lleol, i gael rhan go iawn yn nyfodol Swyddfa’r Post.”

Yn ôl y Gweinidog ar Faterion Llythyru, Edward Davey, cafodd rhwydwaith Swyddfa’r Post ei adael mewn sefyllfa gwaeth gan Lywodraeth Llafur nad oedd yn ei ddisgwyl, ond ei fod yn benderfynnol o newid ffawd y gwasanaeth.

Ond roedd yn rhaid i golledion y rhwydwaith gael eu hatal yn gyntaf meddai, gan na fyddai neb yn fodlon buddsoddi mewn busnes sy’n colli arian.

Dywedodd fod y glymblaid wrthi’n cyfrannu £1.34 biliwn i Swyddfa’r Post er mwyn gwella effeithlondeb a safon y gwasanaeth ar hyn o bryd, ond y byddai creu cwmni cydweithredol yn helpu sicrhau ei ddyfodol.

Bydd yr ymgynghoriad yn para nes canol mis Rhagfyr, ond, pe bai’n cael ei dderbyn, gallai’r broses o greu cwmni cydweithredol gymryd blynyddoedd.