Mae dau ddyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o saethu dau o bobol ger gorsaf danddaearol yn Llundain wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd dau o bobol 18 oed eu hanafu yn y digwyddiad ger gorsaf danddaearol Rayners Lane yng ngogledd-orllewin y ddinas toc wedi 5 o’r gloch nos Fawrth (Awst 21). Fe lwyddodd y ddau droseddwr honedig i ffoi.

Yn wreiddiol, roedd achos i gredu bod y ddau droseddwr honedig wedi defnyddio dryll ond bellach, mae’r heddlu’n credu mai dim ond un ohonyn nhw oedd wedi saethu.

Cafod dau ddyn, 18 a 25 oed, eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, a’u rhyddhau’n ddiweddarach ar ôl cael eu holi.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.