Fe fydd Pab Ffransis yn cyfarfod pobol sydd wedi diodde’ gam-drin rhywiol gan glerigwyr, pan fydd yn ymweld ag Iwerddon y penwythnos hwn.

Mae disgwyl iddo gyrraedd Dulyn ddydd Sadwrn (Awst 25) ar gyfer ymweliad a fydd yn para deuddydd.

Mae’r Eglwys Gatholig yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi cael ei siglo gan honiadau o ddrwgweithredu yn erbyn clerigwyr sy’n mynd yn ôl ddegawdau.

Mae protestwyr wedi trefnu cyfres o ralïau i gyd-daro ag ymweliad y Pab.