Mae’n bosib bod deunaw o ddinasyddion y Deyrnas Unedig wedi cael eu hanfon oddi yma – neu wedi eu cadw yn y ddalfa – heb fod angen, o ganlyniad i sgandal Windrush.

Dyna yw canfyddiad adolygiad gan y Swyddfa Gartref i’r sgandal – mater sydd wedi achosi trafferthion i genhedlaeth o bobol a symudodd i wledydd Prydain o’r Caribî.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, bydd Llywodraeth y Deyrnas unedig yn bwrw ati yn awr i gysylltu â’r 18 unigolyn yma, a chreu grŵp arbenigol i’w cynorthwyo.

Ymddiheuro

“Mae’r hyn a wynebodd aelodau o genhedlaeth Windrush yn hollol annerbyniol, a dw i wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thramgwyddau’r gorffennol,” meddai’r gweinidog.

“Hoffwn, yn bersonol, ymddiheuro i’r unigolion sydd wedi eu canfod gan ein harolygiad. Dw i’n ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth a’r iawndal y maen nhw’n ei haeddu.”

Windrush?

Cenhedlaeth Windrush yw’r enw a rhoddir i’r bobol a gyrhaeddodd wledydd Prydain o’r Caribî, ar gwch o’r enw hwnnw yn 1948.

Yn ddinasyddion o’r Gymanwlad, roedd ganddyn nhw’r hawl i aros yn y Deyrnas Unedig.

Ond, bellach mae wedi dod i’r amlwg bod rhai o’r unigolion yma wedi cael eu hanfon o’r wlad, ac wedi cael eu herio heb reswm gan y Llywodraeth.