Mae dyn 29 oed sydd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio aelodau o’r cyhoedd a swyddogion yr heddlu ger y Senedd yn San Steffan, wedi ymddangos yn y llys bore ma.

Mae Salih Khater, o Stryd Highgate, Birmingham yn wynebu dau gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad y tu allan i’r Senedd ddydd Mawrth diwethaf (14 Awst).

Honnir bod Salih Khater, sy’n ddinesydd Prydeinig a gafodd ei eni yn y Sudan, wedi gyrru ei Ford Fiesta at gerddwyr a seiclwyr cyn gwyro’r car yn fwriadol tuag at swyddogion yr heddlu.

Cafodd ei arestio ar ôl i’w gar daro rhwystrau diogelwch tu allan i Balas Westminster. Cafodd tri o bobol eu trin yn yr ysbyty, am anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywyd, ar ôl y digwyddiad.

Fe fydd erlynwyr yn trin yr achos fel ymosodiad brawychol oherwydd y modd cafodd yr ymosodiad honedig ei gynnal, y bobl a gafodd eu targedu a’r lleoliad adnabyddus, meddai’r Heddlu Metropolitan.

Fe ymddangosodd Salih Khater gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Llun, 20 Awst).

Fe siaradodd i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni, a’i gyfeiriad yn unig mewn gwrandawiad byr yn y llys bore ma.

Nid oedd ei gyfreithiwr wedi gwneud cais am fechnïaeth a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Fe fydd yn mynd gerbron yr Old Bailey ar 31 Awst.