Mae cyplau sy’n magu dau o blant tra’n gweithio llawn amser ar yr isafswm cyflog, yn methu darparu’r safon byw mwyaf sylfaenol, yn ôl gwaith ymchwil.

Mae’r Child Poverty Action Group (CPAG) wedi galw am gynnydd yn y cyflog byw cenedlaethol i ganiatáu i deuluoedd gael safon byw derbyniol.

Mae eu hadroddiad, Cost Of A Child, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn dangos bod cwpl sy’n magu dau o blant £49 yr wythnos yn brin o allu darparu safon byw sylfaenol.

Mae’r rhagolygon yn waeth i riant sengl sydd 20% yn brin yr wythnos o allu darparu safon byw i’w plant sy’n cael ei ystyried yn dderbyniol.

Mae’r elusen wedi rhoi’r bai ar y cynnydd mewn prisiau, rhewi budd-daliadau a chredydau treth, a chyflwyno’r Credyd Cynhwysol, sydd wedi cael effaith andwyol ar gyllideb teuluoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth bod llai o bobol yn byw mewn tlodi erbyn hyn a bod gweinidogion wedi’u hymrwymo i roi’r cyfle gorau i bob plentyn.