Cafodd dynes o wledydd Prydain ei hachub 10 awr ar ôl iddi ddisgyn i’r môr oddi ar long bleser ger Croatia.

Roedd y ddynes wedi bod yn hwylio ar un o longau pleser y Norgwegian Star, pan syrthiodd i For yr Adriatig toc cyn hanner nos ddydd Sadwrn wrth i’r llong ddychwelyd i Fenis.

Dywedodd capten y llong, Lovro Oreskovic, bod y ddynes wedi cael ei darganfod yn nofio yn y dŵr y bore wedyn, tua 60 milltir oddi ar yr arfordir.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu achub ei bywyd,” meddai.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty yn nhref Pula lle mae mewn cyflwr sefydlog.

Yn ôl llefarydd ar ran cwmni Norwegian Star, cafwyd adroddiadau bod y ddynes wedi cwympo i’r môr ar 19 Awst “ac fe ddechreuodd y llong chwilio amdani yn syth gan hysbysu’r awdurdodau priodol. Rydym yn hapus iawn bod y ddynes wedi cael ei darganfod yn fyw ac mewn cyflwr sefydlog ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd: “Fe fydd yna rywfaint o oedi cyn i’r llong ddychwelyd i Fenis,” meddai’r llefarydd.