Mae gwraig 93 oed wedi dioddef anafiadau difrifol wedi iddi gael ei llusgo i’r llawr yn ystod ymosodiad mewn safle bws.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddau ddyn wedi’r digwyddiad treisgar yn Oldham, gogledd Lloegr.

Roedd y wraig yn aros bws toc yn hanner dydd, dydd Iau (Awst 16) pan geisiodd dau ddyn gipio ei bag llaw.

Fe gafodd ei hanafu yn ei phen, ei phe gliniau a’i dwylo… er i’r ymosodwyr adael yn waglaw ar ôl methu cael y gorau arni.

Mae Heddlu Greatet Manchester yn disgrifio’r ymosodiad fel un treisgar a allai fod wedi arwain at ganlyniadau trasig.