Fe lwyddodd dyn a dynes i ddianc o dacsi oedd yn boddi, wedi i’r cerbyd Uber fynd ar ei ben i’r môr ar y Rifiera yn Ffraimc.

Roedd Nick Christoforou, 31, a Sophia Toon, 23, ar daith ben bore pan wyrodd y tacsi oddi ar ben draw jeti yn ninas Cannes.

Fe lwyddodd y dyn i agor drws y car a nofio i ddiogelwch, ynghyd â’r gyrrwr.

“Un munud, ro’n i yng nghefn tacsi Uber ym mynd am adref, a’r nesaf ro’n i yn y môr,” meddai Nick Christoforiou.

“Fe lwyddais i ddod allan, a chyrraedd wyneb y dwr er mwyn chwilio am y ddau arall.

” Os na faswn i’n ffit ac wedi gallu agor y drws, mi fyddai’r tri ohonan ni’n farw.”

Roedd y Citroen DS5 wedi mynd at ei ben i dros ddeg troedfedd o ddwr ym mhorthladd Pierre Canto.

Fe gymrodd gyrrwr y tacsi brawf anadl, ac mae hwnnw wedi dod yn ôl yn glir.

Mae cwmni Uber yn dweud eu bod yn ymchwilio i’r mater.