Michael Moore - am arwain ymgyrch
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban yn bwriadu arwain ymgyrch i atal y wlad rhag torri’n rhydd o weddill y Deyrnas Unedig.

Dyna’r brif stori ym mhapurau’r Alban, wrth i ddau o weinidogion cabinet y glymblaid yn Llundain ymosod ar yr SNP.

Mae Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, yn dweud ei fod am gysylltu gyda’r holl adrannau eraill i gydlynu’r ymgyrch yn erbyn annibyniaeth.

Annog gweinidogion

Fe ddywedodd wrth bapur y Scotsman ei fod am annog ei gyd weinidogion i hyrwyddo’u gwaith tros Wal Hadrian.

Mae prif sylw papur yr Herald ar araith gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn cyhuddo’r SNP o fod yn rhwystr i fusnes.

Mae’r SNP wedi addo cynnal refferendwm ar annibyniaeth cyn diwedd tymor y Senedd bresennol ac mae’r polau piniwn yn awgrymu fod ‘Ie’ fymryn ar y blaen.