Mae dau o’r prif bleidiau yng Ngogledd Iwerddon wedi beirniadu coelcerth sy’n cynnwys enwau plismyn a swyddogion carchar a gafodd eu lladd gan weriniaethwyr.

Roedd y goelcerth wedi’i chynnau yn ardal Bogside yn Derry, ac yn ogystal ag enwau dynion a fu farw, roedd hefyd yn cynnwys fflagiau’r Undeb a Byddin Prydain a thorchau pabi wedi’u dwyn.

Mae lle i gredu mai gweriniaethwyr sy’n gyfrifol, ac mae Sinn Fein wedi disgrifio’r weithred fel “arddangosfa o gasineb” sydd “â dim i’w wneud â gweriniaetholdeb.”

Mae Aelod Seneddol y DUP, Sir Jeffrey Donaldson, wedi ategu bod y weithred o osod enwau’r dynion yn yn tân fel un “gwbwl ddidrugaredd a dieflig.”

“Dim byd i’w gynnig i gymdeithas”

Ymhlith yr enwau a oedd wedi’u cynnwys oedd rhai Ronan Kerr, David Black, Stephen Carroll ac Adrian Ismay, a gafodd ill pedwar eu lladd yn eu gwaith.

Yn ôl Kyle Black ar y cyfryngau cymdeithasol, sef mab David Black a gafodd ei saethu’n farw gan weriniaethwyr yn 2012, mae’r goelcerth yn “hollol afiach”.

“Does gan y bobol sy’n gyfrifol am y weithred ffiaidd hon ddim byd i’w gynnig i gymdeithas,” meddai.

“Fe wasanaethodd fy nhad a’r dynion dewr eraill sydd wedi’u henwau eu cymuned gydag urddas a pharch.”