Tim Farron (o'i wefan)
Roedd yna brotestiadau yn Birmingham heddiw, lle mae Cynhadledd Flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe orymdeithiodd tua 1,500 o aelodau undebau llafur trwy ganol y ddinas i brotestio yn erbyn toriadau gwario’r llywodraeth a’u triniaeth o’r gwasanaethau cyhoeddus.

Fe gafodd arweinydd y blaid ei gyhuddo o fod yn “feddw ar rym”, gan Ysgrifennydd lleol yr undeb Unite, oedd yn ei gyhuddo o rannu “celwyddau” y Ceidwadwyr.

Yn y gynhadledd ei hun, fe barhaodd yr ymosodiadau ar fwriad y Torïaid i gael gwared ar y gyfradd 50c o dreth incwm i’r enillwyr mwya’.

Fe ymosododd Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar fwriad eu partneriaid yn Llywodraeth y Glymblaid.

Yn ôl Tim Farron, fe fyddai dileu’r gyfradd uwch yn “ddi-glem yn economaidd” ac yn “foesol ffiaidd”.