Fe fydd cyn-wr dynes a gafwyd yn farw mewn fflat yn ne-ddwyrain Llundain, yn sefyll ei brawf wedi’i gyhuddo o’i llofruddio.

Mae Martin Cavanagh, 35, wedi’i gyhuddo o ladd Sophie Cavanagh, 31, yn Bromley, rywbryd rhwng Mai 18 a 21.

Mae wedi ymddangos gerbron yr Old Bailey heddiw (dydd Mercher), ac wedi pledio’n ddieuog.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ar Dachwedd 19.

Yn wreiddiol, fe gafodd marwolaeth Sophie Cavanagh ei thrin fel un heb eglurhad, ond yna fe gyhoeddodd Scotland Yard eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad llofruddiaeth, wedi i’r prawf post mortem awgrymu fod y farwolaeth yn un amheus.