Mae’n bosib y bydd y ffyrdd o amgylch Senedd San Steffan yn Llundain yn cael eu cau rhag traffig, oherwydd y peryg o ymosodiadau brawychol.

Fe ddywedodd pennaeth Heddlu Llundain, Cressida Dick, y byddai’r syniad yn cael ei drafod gan yr heddlu, awdurdodau’r Senedd a Maer Llundain ar ôl ymosodiad arall yn yr ardal ddoe.

Mae dyn 29 oed yn dal i gael ei holi ar amheuaeth o gynnal ymosodiad brawychol wedi i fan Ford Fiesta daro cerddwyr a seiclwyr gerllaw Tŷ’r Cyffredin ddoe – ei enw yw Salik Khater o Birmingham, ond yn wreiddiol o’r Swdan.

Cerbydau – ‘yr hoff arf’

Mae trefniadau diogelwch wedi cael eu cynyddu’n sylweddol yn ardal y Senedd yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, yn sgil nifer o ymosodiadau yn ystod y 18 mis diwetha’.

Mae rhagor o heddlu arfog a rhagor o rwystrau yn yr ardal ond, yn ôl Cressida Dick, fe fydd angen ystyried gwneud rhagor i rwystro ymosodiadau mewn ceir.

“Gwaetha’r modd, o edrych ar draws Ewrop a’r byd gorllewinol, mae’n ymddangos mai cerbydau yw hoff arf, hoff ddull ymosod brawychwyr ac mae cerbydau’n gallu achosi dinistr mawr, fel y gwelson ni mor aml,” meddai.

Mae heddlu’n archwilio tai yn y Midlands yn Lloegr, ardal y dyn sy’n cael ei holi.