Mae’r Post Brenhinol wedi derbyn dirwy o £50m am dorri cyfraith cystadleuaeth.

Yn ôl y rheoleiddiwr, Ofcom, mi wnaeth y cwmni gymryd mantais o’u pŵer, a rhoi triniaeth anffafriol i’r unig gwmni sy’n medru cystadlu yn eu herbyn, Whistl.

Daw’r ddirwy yn sgil cwyn gan Whistl, cwmni sydd yn prynu nwyddau oddi wrth y Post Brenhinol.

Roedd y Post Brenhinol wedi newid eu cytundebau â rhai cwmnïau, gan gynnwys Whistl, yn 2014, mewn modd a oedd yn golygu bod yn rhaid iddyn nhw dalu rhagor am eu gwasanaeth.

Ond, roedd y newid yma ond yn effeithio cwmnïau a oedd yn ceisio cystadlu gyda nhw yn uniongyrchol trwy ddosbarthu llythyron.

“Siomedig”

Mae’r Post Brenhinol wedi dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn penderfyniad Ofcom, gan honni nad oedd y newidiadau mewn pris wedi eu gweithredu mewn gwirionedd.

Meddai’r cwmni mewn datganiad: “Mae’r Post Brenhinol yn hynod o siomedig â phenderfyniad Ofcom i orfodi dirwy o £50 miliwn.

“Rydym yn dadlau’n gryf yn erbyn unrhyw awgrym ein bod wedi gweithredu mewn modd sydd yn groes i’r ddeddf cystadleuaeth. Mae’r penderfyniad yn sylfaenol wallus.”