Mae aelod o Lywodraeth yr Eidal wedi galw ar y Deyrnas Unedig i gymryd gofal o 141 ffoadur sydd wedi’u hachub gan long sy’n hwylio o dan fflag Gibraltar.

Wrth i’r Eidal barhau i wrthod mynediad i longau sy’n cael eu hwylio gan grwpiau dyngarol, mae Gweinidog Trafnidiaeth y wlad, Donilo Toninelli, yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain fod yn gyfrifol am ffoaduriaid sydd ar long yr Aquarius.

Mae’r llong yng ngofal grwpiau dyngarol Ffrengig, ond yn eiddo i Gibraltar.

Mae’r Eidal wedi gwrthod cymryd gofal o’r mewnfudwyr, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw o Somalia a Eritrea.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn chwilio am wledydd sy’n fodlon cymryd y 141 o bobol, sy’n cynnwys 67 o blant heb eu rhieni.

Mae Donilo Toninelli wedi cadarnhau bod y llong ar hyn o bryd yn nyfroedd Malta, ac yn derbyn cyfarwyddiadau gan wylwyr y glannau Libya.