Mae ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu cynlluniau i newid y gyfraith ar seiclo’n dweud mai “potsian” fyddai cyflwyno trosedd o achosi marwolaeth drwy seiclo peryglus neu ddiofal.

O dan y cynlluniau, byddai unrhyw seiclwr sy’n lladd cerddwr yn cael ei drin yn yr un modd â gyrrwr cerbyd.

Yn ôl mudiad Cycling UK, mae angen adolygiad llawn o droseddau ar y ffyrdd yn hytrach na chyflwyno camau i geisio “trwsio” gwendidau yn y ddeddfwriaeth.

Daw’r drafodaeth ar ôl i ddynes gael ei lladd gan ddyn 18 oed yn 2016 wrth iddo seiclo, ac fe gafodd ei garcharu am 18 mis am achosi niwed corfforol drwy yrru direidus a gwyllt – trosedd Fictorianaidd oedd yn ymwneud â cheffylau.

Cafodd 448 o gerddwyr eu lladd ar ffyrdd gwledydd Prydain yn 2016 – a thri yn unig yn ymwneud â beiciau.

Camau newydd

Dros yr wythnosau diwethaf, mae Adran Drafnidiaeth San Steffan wedi cyflwyno cyfres o fesurau i geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, gan gynnwys:

– Ariannu hyfforddiant i hyfforddwyr gyrru er mwyn sicrhau diogelwch beicwyr

– Ymchwilio’n fwy trylwyr i wrthdrawiadau

– Buddsoddi £100 miliwn i wella cyflwr y ffyrdd

Ac mae canllawiau cenedlaethol i feicwyr a cherddwyr wedi’i gyhoeddi.