Mae House of Fraser wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr gan fygwth dyfodol 17,000 o staff.

Dywedodd y cwmni siopau nad oedd trafodaethau gyda buddsoddwyr posib a’u credydwyr wedi dwyn ffrwyth ac nad oedd dewis ond penodi gweinyddwyr.

Ond mae House of Fraser yn dweud eu bod yn ffyddiog y gallai rhannau o’r cwmni gael eu hachub o hyd.

Yn ôl y cwmni maen nhw wedi gwneud “cynnydd sylweddol” wrth ddod i gytundeb i werthu busnes ac asedau’r grŵp.

Mae disgwyl i EY gael eu penodi fel gweinyddwyr ac fe fyddan nhw’n parhau i gynnal trafodaethau gyda buddsoddwyr yn y gobaith o ddod i gytundeb.

Mae House of Fraser wedi dweud y bydd eu siopau yn parhau ar agor wrth iddyn nhw chwilio am brynwr.

Roedd House of Fraser yn wynebu trafferthion ar ôl i C.banner o Tsieina, sy’n berchen Hamleys, benderfynu wythnos ddiwethaf i beidio buddsoddi yn y cwmni.

Ond dywedodd cadeirydd House of Fraser, Frank Slevin, ei fod yn hyderus eu bod “ar fin sicrhau dyfodol” y cwmni.