Mae angen cael gwared ar dargedau sy’n cyfyngu ar fewnfudo wedi Brexit, yn ôl grŵp o arweinwyr busnes.
Yn ôl adroddiad newydd y CBI, mae angen polisi mewnfudo newydd ac osgoi cyflwyno fisas i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r sefydliad i fusnesau wedi cofnodi tystiolaeth gan 129,000 o gwmnïau ar draws 18 sector yn yr adroddiad – ‘Open And Controlled – A New Approach To Migration’.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr y CBI, Josh Hardie, fod y gwaith yn dangos pwysigrwydd mewnfudo i ateb y galw am bob sgil, waeth beth yw’r lefel.
Galwodd am hepgor targedau i gyfyngu ar y nifer o bobol sy’n dod mewn i’r wlad er mwyn sicrhau bod gan gwmnïau’r gallu i gyflogi’r staff maen nhw angen.
“… Mae llawer o sectorau eisoes yn wynebu prinder, o nyrsys i beirianwyr meddalwedd – felly mae angen cymryd camau cynaliadwy yn gyflym,” meddai.
Angen mwy na’r “mwyaf disglair”
Yn ôl yr adroddiad, mae busnesau angen mwy na’r mewnfudwyr “mwyaf disglair” – mae angen rhai o bob sgil ar draws llawer o sectorau gwahanol.
“Os cawn ni hyn yn anghywir, bydd perygl bod dim digon o bobol i gynnal y Gwasanaeth Iechyd, casglu ffrwythau a delifro nwyddau i siopau ledled y wlad.
“Bydd hyn yn creu niwed i ni gyd – o’r arian yn ein pocedi i’n mynediad at wasanaethau cyhoeddus.
“Mae’r anghenion yn fwy cymhleth na dim ond sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gallu denu’r “gorau a’r mwyaf disglair.”