Mae miloedd o ddarnau punt heb gael eu dychwelyd, er gwaetha’r ffaith nad ydyn nhw werth dim byd rhagor, yn ôl y Bathdy Brenhinol.

Yn o sefydliad yn Llantrisant, mae mwy na 169m o ddarnau yn dal heb gael eu casglu, a hynny naw mis ar ôl iddyn nhw fynd allan o gylchrediad.

Fe gafodd y darn punt newydd ei gyflwyno ar Fawrth 28 y llynedd, gyda’r hen ddarnau punt yn troi’n ddiwerth ar Hydref 15 – er ei bod hi’n dal yn bosib eu bancio nhw,

Ond mae’r Bathdy Brenhinol wedi cadarnhau bod y darnau o’r hen bunt sydd wedi cael eu dychwelyd atyn nhw eisoes wedi cael eu toddi a’u troi’n ddarnau punt newydd.