Mae citiau i brofi am y cyflwr HIV ar gael mewn siop stryd fawr am y tro cynta’.

Mae’r newyddion wedi ei groesawu gan yr elusen AIDS, Ymddiriedolaeth Terence Higgins, ond maen nhw’n mynnu hefyd bod angen pwysleisio bod profion ar gael am ddim mewn clinigau rhyw.

Heddiw, fe gyhoeddodd y gadwyn siopau fferyllydd Supedrug eu bod nhw’n dechrau gwerthu citiau prawf HIV BioSURE am £33.99 – maen nhw eisoes ar gael ar y We.

Y citiau oedd y rhai cynta’ i gael eu dilysu’n swyddogol ac mae ganddyn nhw record o fod bron 100% yn gywir.

‘Gwych, ond …’

“Mae’n wych gweld brand stryd fawr fel Supedrug yn cydnabod yr angen am ddarparu citiau profi-eich-hunan sy’n rhoi canlyniad o fewn chwarter awr,” meddai Marc Thompson, pennaeth gwella iechyd Ymddiriedolaeth Terence Higgins.

“Ond dyw pawb ddim yn gallu fforddio prynu cit ac mae’n bwysig gwneud yn glir y gallwch brofi yn rhad ac am ddim ym mhobn clinic rhyw.”

Mae’r elusen hefyd yn cynnig citiau rhad ac am ddim mewn cymunedau lle mae llawer o HIV.

Yn ôl un set o ystadegau dyw un o bob wyth person sy’n byw gyda HIV ddim yn gwybod hynny – mwy na 10,000 o bobol trwy wledydd Prydain.