Mae’r pwysau ar gyn-Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson i ymddiheuro am gymharu penwisg Foslemaidd y burka â blychau post.

Fe fu pwysau ers tro gan y Prif Weinidog Theresa May a chadeirydd y blaid, Brandon Lewis, ond hyd yma, dydy e ddim wedi ymddiheuro am y sylwadau “sarhaus”.

Er i Theresa May alw am ymddiheuriad, gwnaeth hi osgoi dweud bod ei sylwadau’n gyfystyr ag Islamoffobia.

Fe ddaeth ei sylwadau mewn erthygl papur newydd, lle dywedodd hefyd fod menywod sy’n gwisgo’r burka fel lladron banc.

Sylwadau’r byd Mwslimaidd

Mae sylfaenydd a llywydd Fforwm Mwslimiaid y Ceidwadwyr, yr Arglwydd Sheikh wedi galw am gymryd “camau difrifol” yn erbyn Boris Johnson am nad yw e wedi ymddiheuro.

Fe ddylai’r blaid dynnu’r chwip oddi arno, meddai.

Mae’r cyn-ymgeisydd seneddol, Shazia Awan-Scully wedi cyhuddo Boris Johnson o geisio plesio’r “asgell dde eithafol”, ac wedi cymharu ei sylwadau ag araith drwg-enwog Enoch Powell. Mae hi’n galw am ei ddiswyddo.

Mae’r Fonesig Warsi wedi cyhuddo Boris Johnson o ymddwyn fel cyn-gynorthwyydd yr Arlywydd Donald Trump, Steve Bannon mewn ymgais i ddenu cefnogaeth o’r asgell dde eithafol er mwyn ceisio dod yn arweinydd maes o law.

Sylwadau ‘allan o’u cyd-destun’

Er iddo gael ei feirniadu, mae cyd-olygydd The Conservative Woman, Laura Perrins yn mynnu bod sylwadau Boris Johnson wedi’u cymryd allan o’u cyd-destun.

Dywedodd mai ei gosbi fyddai “union y math o nonsense awdurdodol y mae’n rhaid i ni ymatal rhagddo”.

Amddiffyn Boris Johnson

Mae awgrym eisoes na fydd Boris Johnson yn ymddiheuro am ei sylwadau.

Dywedodd ffynhonnell ei bod yn “warthus” fod ymosod arno yn sgil yr hyn a ddywedodd, ac na ddylid “cau’r ddadl tros faterion anodd”.

Dywedodd fod “methu â siarad ar ran gwerthoedd rhyddfryfol… yn ildio tir i’r adweithwyr a’r eithafwyr”.

Wrth ymateb i’r sylwadau hynny, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Jess Phillips fod Boris Johnson “jyst yn hiliol”.