Nick Clegg - rhybudd
Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn brwydro i atal ei Lywodraeth ei hun rhag torri’r dreth i’r bobol fwya’ cyfoethog.

Dyna honiad arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wrth iddo baratoi i wynebu cynhadledd ei blaid yn Birmingham.

Ac fe roddodd awgrym o anghytundeb gyda chyfeiriad economaidd y Llywodraeth Glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.

Mae angen “Cynllun A+” meddai wrth bapur yr Independent – heb dynnu’n hollol groes i’r Canghellor, George Osborne, sy’n dweud nad oes ail gynllun, ond gan awgrymu newid.

Democratiaid yn anfodlon

Fe fydd ei safiad yn bwysig o ran gwleidyddiaeth fewnol ei blaid, gyda llawer o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn anfodlon ar gysylltiad eu plaid gyda rhai elfennau o’r toriadau gwario.

Fe fydden nhw’n fwy anhapus fyth pe bai’r Canghellor a’r Prif Weinidog, David Cameron, yn bwrw ymlaen gyda’u bwriad i gael gwared ar y raddfa uwch o dreth incwm o 50c yn y bunt ar yr ychydig sy’n ennill fwya’.

Fyddai hynny ddim yn dderbyniol tra bod miliynau’n diodde’, meddai Nick Clegg, ac fe allai hynny arwain at golli hyder llwyr yn yr holl system drethi.

“Dydyn ni ddim yno i ruthro i helpu’r 1% uchaf o bobol gyfoethog iawn, iawn, sydd heb fod mewn amgylchiadau anodd,” meddai.

  • Mae tri o bobol wedi cael eu harestio am brotest yn agos at ganolfan yr ICC lle bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd.