Mae tua £10,000 wedi cael ei godi er mwyn talu am gostau angladdol bydwraig o Swydd Stafford.

Fe gafodd corff Samantha Eastwood, 28 oed, ei ddarganfod mewn ardal wledig ger Caverswall, Swydd Stafford, dros y penwythnos.

Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio amdani ar ôl iddi ddiflannu wyth diwrnod ynghynt.

Mae dyn 32 oed o’r enw Michael Stirling wedi ymddangos gerbron y llys heddiw (dydd Llun, Awst 6) ar gyhuddiad o’i llofruddio.

Erbyn hyn, mae ei chydweithwyr ac aelodau o’r cyhoedd wedi cyfrannu arian at gronfa er cof amdani, gyda’r arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i dalu am gostau’r angladd.

Yn dilyn 24 awr o sefydlu’r gronfa ar-lein, fe gafodd mwy na £3,500 ei gyfrannu gan tua 100 o bobol.

Cofio Samantha Eastwood

“Mae stori Samantha wedi cael ei ddilyn gan fydwragedd a staff y Gwasanaeth Iechyd ledled y byd,” meddai Beth Taylor, sefydlydd y wefan.

“Maen nhw wedi cael eu cyffwrdd gan y geiriau caredig oddi wrth famau yr oedd Samantha wedi gofalu amdanyn nhw, ynghyd â chydweithwyr a weithiodd ochr yn ochr â hi.

“Mae Samantha wedi cael ei disgrifio yn berson cynnes, gofalus a charedig, ac fe fydd hi’n cael ei chofio am ei hymdrechion arbennig fel bydwraig ac yn cael ei cholli gan nifer.”