Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddio’r fydwraig Samantha Eastwood.

Mae disgwyl i Michael Stirling, 32, o Stoke-on-Trent, fynd gerbron ynadon Gogledd Swydd Stafford ddydd Llun, meddai’r heddlu.

Cafwyd hyd i gorff y fydwraig 28 oed gan swyddogion yr heddlu ger Caverswall ddydd Sadwrn – wyth diwrnod ar ôl iddi ddiflannu.

Cafodd ei gweld y tro diwethaf yn gadael ei gwaith yn Ysbyty Brenhinol Stoke am 7.45yb ar ddydd Gwener, 27 Gorffennaf.

Cafodd dau ddyn arall, 28 a 60 oed, eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac maen nhw wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Roedd archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ddydd Sul ond fe fydd angen cynnal profion pellach.