Mae’r heddlu wedi tynnu corff o’r dŵr mewn gwarchodfa natur wrth chwilio am ferch 14 oed yn Sir Gaer.
Daethon nhw o hyd i’r corff mewn coedwig yn ardal Widnes fore heddiw.
Mae pryderon y gallai merch 14 oed sydd ar goll fod wedi cwympo i mewn i’r dŵr. Mae ei theulu wedi cael gwybod am ddarganfyddiad yr heddlu.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 5.50 nos Sadwrn yn dilyn diflaniad y ferch.
Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod hyd yn hyn, ond mae teulu’r ferch wedi cael gwybod.