Mae Aelod Seneddol yr SNP, Mhairi Black wedi lladd ar San Steffan, gan ddweud ei bod yn “glwb sy’n esgus bod yn senedd”.

Daeth sylwadau’r Aelod Seneddol dros Paisley a De Sir Renfrew yn ystod sgwrs yng Ngŵyl Caeredin.

Tra ei bod yn mwynhau ei gwaith etholaeth, dywedodd hi wrth Graham Spiers nad yw hi’n mwynhau’r “rwtsh” sy’n dod gyda’r swydd, a bod San Steffan yn “seiliedig” ar y pethau hynny sy’n gas ganddi.

“Nid yw’n ein gwasanaethu ni ac mewn gwirionedd, awn i mor bell â dweud nad ydyw hyd yn oed yn senedd – clwb yw hi sy’n dangos ei hun.

“Mae wedi’i dylunio yn y fath fodd fel nad yw pobol yn cael eu dwyn i gyfri. Mae wedi’i dylunio yn y fath fodd fel y gallwch chi frefu a chwyno a phleidleisio yn erbyn pethau, ac nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.

“Cafodd ei dylunio yn y fath fodd fel y byddwch yn cwympo wrth bob clwyd.

“Mae mor anodd ag y gall fod i sicrhau unrhyw newid.”

Cyd-Aelodau Seneddol

Nid yn unig y sefydliad sydd wedi dod dan y lach. Mae hi hefyd wedi beirniadu ei chyd-Aelodau Seneddol.

Dywedodd: “Mae gwleidyddiaeth, yn aml iawn, yn denu’r mathau gwaethaf yn ein dynoliaeth.

“Mae’n denu pobol sy’n ysu am rym, ac sydd â phob math o agenda gudd.

“Felly os oes gennych chi bob un ohonyn nhw yn y sefydliad hwn nad yw’r cyhoedd yn ei ddeall, ac y mae’r cyhoedd yn cymryd ei fod yn rhy gymhleth iddyn nhw, ac y gallan nhw gael rhwydd hynt i wastraffu cannoedd o bunnoedd yn enw protocol a thraddodiad, yna wrth gwrs y byddan nhw’n gwneud hynny.”

Wrth drafod ei dyfodol fel Aelod Seneddol, a hithau wedi’i hethol yn 20 oed dair blynedd yn ôl, dywedodd nad oedd hi’n sicr y byddai hi’n sefyll eto.