Mae disgwyl gwres llethol unwaith eto mewn rhannau o wledydd Prydain dros y penwythnos.

Fe allai gyrraedd 31 gradd selsiws ar hyd arfordir de Lloegr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Ac fe fydd rhannau o Lundain a chanolbarth Lloegr yn teimlo’r gwres ddydd Sul.

Mae rhybudd y gallai’r tymheredd godi i 32 gradd selsiws ddechrau’r wythnos nesaf, ac y dylai unrhyw un sy’n bwriadu mynd allan fod yn ofalus.

Llai poeth mewn rhai ardaloedd

Serch y gwres, fe fydd rhai rhannau o wledydd Prydain yn parhau’n llai poeth, gan gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe allai gogledd a gorllewin yr Alban gael ychydig o law ddechrau’r wythnos.

Mae disgwyl iddi barhau’n sych yng Nghymru a Lloegr.