Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad bydwraig o Swydd Stafford wedi dechrau chwilio amdani mewn ardal wledig ar gyrion Stoke.

Dydy Samantha Eastwood, 28, ddim wedi cael ei gweld ers 7.45 fore Gwener, Gorffennaf 27, pan oedd hi’n gadael Ysbyty Brenhinol Stoke ar ddiwedd shifft nos.

Wnaeth hi ddim cyrraedd ei gweithle’r noson honno.

Cafodd dyn 32 oed ei harestio, ond mae bellach wedi’i ryddhau dan ymchwiliad.

Dywedodd ei chymdogion iddyn nhw glywed sgrechian am oddeutu 2 o’r gloch y diwrnod yr aeth hi ar goll.

Mae’r heddlu wedi apelio am ragor o wybodaeth.

Ddydd Gwener, dywedodd ei chwaer, Gemma bod y teulu’n “gweld ei heisiau yn fawr iawn”.