Mae’r mwyafrif o bobol yn teimlo eu bod yn ddibynnol ar ddyfeisiau digidol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae ffigurau diweddara’r awdurdod darlledu, Ofcom, yn nodi bod 64% o bobol gwledydd Prydain yn teimlo bod cysylltiad â’r we yn rhan hanfodol o’u bywydau.

Bellach mae un o bob pum person yn treulio 40 awr yr wythnos ar y we, ac mae pobol y Deyrnas Unedig yn edrych ar eu ffonau symudol bob 12 munud, ar gyfartaledd.

Ac erbyn hyn, mae pobol yn treulio mwy o amser yn defnyddio Facebook a WhatsApp – apiau cyfathrebu sy’n defnyddio’r we – ar eu ffonau, nag y maen nhw’n ei dreulio yn ffonio.

Ffigurau eraill

* Mae hanner oedolion y Deyrnas Unedig yn dweud y byddai bywyd yn “ddiflas” heb y we

* Mae pobol yn treulio 24 awr yr wythnos ar y we, ar gyfartaledd

* Mae 40% o oedolion yn edrych ar ei ffonau am y tro cynta’, pum munud wedi iddyn nhw ddeffro (65% yw’r ffigwr ymhlith pobol sy’n iau na 35)

* Mae 53% o oedolion ar ei ffonau wrth wylio’r teledu fel arfer

Ochr dywyll

Mae ‘na ochr dywyll i hyn, yn ôl Ofcom, gan fod llawer yn teimlo bod cysylltiad diddiwedd â’r rhyngrwyd yn cael effaith negyddol ar eu bywydau.

I 54% o’r cyhoedd, mae’r we yn tanseilio eu gallu i gyfathrebu â ffrindiau a theulu, ac mae 15% yn teimlo eu bod methu cael hoe o waith achos eu dyfeisiau.

“Boddi mewn gwybodaeth”

“Dros y degawd diwetha’, mae bywydau pobol wedi cael eu trawsnewid gan dwf y ffôn clyfar (smartphone),” meddai Ian Macrae, Cyfarwyddwr Ofcom ar wybodaeth y farchnad.

“Mae’r teclynnau’n cynnig gwell gysylltiad â’r we, a gwasanaethau newydd. Rydym ni’n medru gwneud mwy nag erioed gyda’r dyfeisiau yma.

“Ond er bod rhai yn hoffi’r ffaith bod ei ffôn clyfar yna iddyn nhw o hyd, mae rhai yn teimlo’u bod yn boddi mewn gwybodaeth tra’u bod nhw ar lein – ac maen nhw’n rhwystredig oddi ar y we.”