ae disgwyl i Fanc Lloegr godi’r gyfradd log yn ddiweddarach heddiw (Awst 2).

Dyma fydd ond yr ail dro i’r gyfradd gael ei chodi yn ystod y degawd hwn, ac mae yna ddarogan bydd y gyfradd yn codi o 0.5% i 0.75%

Pe bai hynny’n digwydd, dyma fyddai lefel uchaf y gyfradd ers Mawrth 2009, pan gwympodd y gyfradd o 1% i 0.5% – ymateb i argyfwng ariannol oedd hyn.  

Gan fod banciau yn seilio’u cyfraddau hwythau ar y gyfradd yma, mae disgwyl i’r cam gael effaith ar gyfrifon, benthyciadau a morgeisi pobol ledled y Deyrnas Unedig.

Economegwyr

Roedd disgwyl i’r gyfradd gynyddu’n llawer cynt, ond mae’n debyg bod tywydd garw’r gaeaf wedi atal hynny – roedd ‘na ddiffyg data economaidd dibynnol yn ystod y cyfnod yma.

Â’r bunt yn wan a phrisiau tanwydd yn cynyddu, mae rhai economegwyr yn dweud ei fod yn hen bryd am godiad i’r gyfradd.