Mae Llywodraeth Gwlad Thai yn ceisio estraddodi cyn-Brif Weinidog y wlad sydd ar hyn o bryd yn derbyn lloches yn y Deyrnas Unedig.

Fe ddihangodd Yingluck Shinawatra y wlad y llynedd cyn cael ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am drosedd sy’n gysylltiedig â thwyll.

Fe gafodd ei ddisodli fel Prif Weinidog yn 2014, a hynny gan y Prif Weinidog presennol, Prayut Chan-ocha, a oedd yn bennaeth y fyddin ar y pryd.

Mae Prayuth Chan-ocha bellach wedi cadarnhau bod Llywodraeth Gwlad Thai wedi cyflwyno cais swyddogol i’r Deyrnas Unedig ar gyfer estraddodi Yingluck Shinawatra.

Mae Gweinidog Tramor Gwlad Thai, Don Pramudwinai, yn disgrifio’r cam yn weithred gyfreithiol, yn hytrach nag un sy’n cael ei yrru gan wleidyddiaeth.