Mae gan Lywodraeth Prydain “gynlluniau doeth wrth gefn” ar gyfer sefyllfa Brexit heb gytundeb, yn ôl Stryd Downing.

Mae gweinidogion y Llywodraeth hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw ar hyn o bryd yn ceisio sicrhau y bydd yna ddigon o feddyginiaethau a storfa “ddigonol” o fwyd pe na  bai cytundeb ar Brexit yn cael ei ffurfio cyn mis Mawrth 2019.

Mae disgwyl hefyd i’r Llywodraeth gyhoeddi cyfarwyddiadau yn ystod misoedd Awst a Medi ar gyfer busnesau sy’n pryderu am sefyllfa ‘dim cytundeb’.

Ond mae swyddfa’r Prif Weinidog wedi wfftio adroddiadau bod y fyddin wrth-law i ddelio â sefyllfa o’r fath, gan ddweud nad oes “dim cynlluniau” ganddyn nhw sy’n “cynnwys y fyddin”.

“Sicrhau cytundeb”

“Rydym wedi bod yn hollol glir bod sicrhau cytundeb nid yn unig er budd i ni, ond i’r Undeb Ewropeaidd hefyd,” meddai’r llefarydd ar ran Theresa May.

“Pe na bai cytundeb, yna fe fydd goblygiadau i’r Undeb Ewropeaidd…

“Rydym yn gweithio tuag at sicrhau cytundeb, ond mae’r Prif Weinidog yn glir y byddwn ni’n cymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn cael dyfodol llewyrchus.”