Mae’r aelod seneddol Llafur Ian Austin wedi cyhuddo arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn o “gefnogi ac amddiffyn eithafwyr” a phobol wrth-Semitaidd.
Daeth y cyhuddiad ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod yr Aelod Seneddol tros Ogledd Dudley yn wynebu camau disgyblu yn dilyn ffrae â chadeirydd y blaid am i’r pwyllgor gwaith fethu â derbyn diffiniad eang o wrth-Semitiaeth.
Mae Ian Austin yn fab i Iddewon, ac fe fu farw aelodau o’i deulu yn yr Holocost yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae e wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o fabwysiadu math “eithafol” o wleidyddiaeth, gan ddweud wrth Radio 4: “Dydy rhywun â safbwyntiau a hanes fel ei un e ddim wir yn addas ar gyfer arweinyddiaeth plaid wleidyddol brif ffrwd.”
Fe gyhuddodd e Jeremy Corbyn o “dreulio’i holl gyfnod mewn gwleidyddiaeth ar gyrion eithafol y Blaid Lafur, yn cefnogi ac amddiffyn pob math o eithafwyr ac mewn rhai achosion, gwrth-Semitiaid”.
Diffinio gwrth-Semitiaeth
Dydy pwyllgor gwaith y Blaid Lafur ddim wedi cynnwys diffiniad llawn Cynghrair Genedlaethol Cofio’r Holocost o wrth-Semitiaeth o fewn ei god ymddygiad newydd.
Mae’r Blaid Lafur wedi derbyn y diffiniad ac wedi ailadrodd diffiniad y Gynghrair o ymddygiad gwrth-Semitaidd, ond does dim sôn yn y cod am:
– gyhuddo Iddewon o fod yn fwy teyrngar i Israel na’u gwlad eu hunain;
– honni bod Israel yn wladwriaeth yn hiliol;
– disgwyl safonau ymddygiad uwch gan Israel na gwledydd eraill
– cymharu polisïau cyfoes Israel â pholisïau’r Natsïaid
Ond mae Llafur yn mynnu bod y cod yn crybwyll y pedwar mater uchod.