Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth anesboniadwy dynes yng Nglannau Mersi.

Cafwyd hyd i’w chorff ar gaeau chwarae yn ardal Sefton yn oriau man fore heddiw yn dilyn pryderon am ei diogelwch.

Mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Glannau Mersi ar 101.