Mae cynnydd o bron i 2.5 miliwn wedi bod yn y niferoedd o gerbydau ar ffyrdd Lloegr dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Yn ôl ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr, roedd 32,153,000 o gerbydau ar y ffyrdd y llynedd o gymharu â 29,692,300 yn 2013 – cynnydd o 7.7%.

Cynnydd o 0.6% yn unig fu ym maint y rhwydwaith ffyrdd fodd bynnag – sy’n golygu bod 170 o gerbydau i bob milltir o’r ffordd o gymharu â 158 yn 2013.

“Mae argyfwng tagfeydd cynyddol ar ffyrdd Lloegr ar hyn o bryd,” meddai’r Cynghorydd Martin Tett, llefarydd trafnidiaeth y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Mae’r Gymdeithas yn galw ar y Llywodraeth i wario dwy geiniog o’r dreth ar bob litr o betrol ar gynnal a chadw a gwella ffyrdd.