Nid yw mwy na dwy filiwn o weithwyr yn cael yr hawl gwyliau cyfreithiol, gyda llawer ohonyn nhw ddim yn cael unrhyw wyliau â thâl o gwbl, yn ôl astudiaeth.

Dywedodd  Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) fod un o bob 12 o weithwyr y Deyrnas Unedig yn colli allan yng nghanol llwyth gwaith afrealistig, a chyflogwyr yn gwadu ceisiadau gwyliau yn fwriadol neu’n gwrthod cydymffurfio â’r gyfraith.

Dangosodd y dadansoddiad fod gweithwyr yn colli gwerth bron i £3 biliwn o wyliau â thâl y flwyddyn.

Y sectorau lle mae’r gweithwyr yn fwyaf tebygol o fod ar eu colled yw amaethyddiaeth, mwyngloddio a chwareli, a llety a bwyd. Mae gan bobl sy’n gweithio hawl i leiafswm statudol o 28 diwrnod o wyliau â thâl.

“Gorweithio”

Dywedodd y TUC y dylid rhoi pwerau newydd i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi i atal cyflogwyr sy’n gwrthod eu hawl statudol i staff.

“Rydym ni bellach yn y tymor gwyliau brig, ond tra bod llawer o weithwyr yn mwynhau amser i ffwrdd gyda ffrindiau a theulu, mae miliynau’n colli allan. Ac mae hynny’n eu peryglu o gael eu gorweithio,” meddai ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady

“Nid oes gan y cyflogwyr esgus dros esgeuluso staff o’u habsenoldeb haeddiannol. Mae gweithwyr y DU yn rhoi biliynau o oriau o oramser di-dâl fel y mae.”