Mae’r heddlu’n chwilio am yrrwr moped ar ôl i fachgen yn ei arddegau gael ei drywanu i farwolaeth yn ne Llundain.

Daethpwyd o hyd i’r dyn ifanc 18 oed gydag anafiadau yn Lambeth, ar ôl cael ei ollwng gan ail berson ar foped, a oedd wedyn wedi gyrru i ffwrdd, toc cyn 7yh nos Fercher.

Rhoddodd aelodau’r cyhoedd gymorth cyntaf iddo cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd a chafodd y dioddefwr ei gludo i ysbyty yn ne Llundain, lle cafodd ei ddynodi’n farw yn oriau mân fore heddiw.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi arwain at rywun ifanc arall eto yn cael ei drywanu yn Llundain,” meddai llefarydd ar ran heddlu Scotland Yard.

“Mae angen i ni olrhain y moped a hefyd y person a ddaeth â’r dioddefwr i’r lleoliad. Mae’n bwysig ein bod ni’n sefydlu lle a sut y cafodd y dioddefwr ei anafiadau yn y lle cyntaf.”