Mae pumed person wedi’i arestio mewn perthynas ag ymosodiad asid ar fachgen tair oed yn Worcester.

Cafodd y dyn 41 oed o Wolverhampton ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol yn dilyn y digwyddiad yn siop Home Bargains y dref.

Ac mae tri dyn arall yn eu 20au o Lundain yn parhau i gael eu holi ar amheuaeth o’r un drosedd wedi iddyn nhw gael eu harestio ddydd Llun.

Mae dyn 39 oed o Wolverhampton hefyd yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ddydd Sul.

Yn ôl yr heddlu, does dim perygl ehangach i’r cyhoedd.

Cafodd y plentyn fynd adref ddydd Sul, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw e wedi cael anafiadau hirdymor.