Mae’r nifer o bobol sy’n newid banciau wedi cynyddu, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Rhwng Gorffennaf 2017 a Mehefin 2018 gwnaeth 965,317 o gwsmeriaid newid banc, ar gyfer eu cyfrifon cyfredol (curent accounts) – cynnydd o 6% o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol.

Hefyd, yn ystod hanner cyntaf 2018 gwnaeth bron i hanner miliwn (499,801) o bobol newid banc. Ac mae hynny’n gynnydd o 7% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Barclays, Lloyds Bank ac RBS yw’r banciau a gollodd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ystod chwarter cyntaf eleni.

Halifax, Nationwide a HSBC, yw’r banciau a welodd y nifer fwya’ o gwsmeriaid yn troi tuag atyn nhw – cynyddodd nifer cwsmeriaid y banciau yma, ar y cyfan.

Ffigurau

Daw’r ffigurau o waith ymchwil gan gorff Bacs – y corff sy’n goruchwylio’r gwasanaeth newis cyfrifon cyfredol (current account switch service  neu Cass).

Ers i’r gwasanaeth gael ei lansio yn 2013, mae 4.9 miliwn o bobol wedi’i ddefnyddio.