Mae dyn a gafodd ei arestio wedi i wddw dynes gael ei dorri â chyllell mewn gwesty yng nghanol dinas Manceinion, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Roedd y dyn 20 oed yn un o blith chwech o bobol a gafodd eu dwyn i’r ddalfa dydd Lun ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Fe ddaeth yr heddlu’n ymwybodol o’r achos wedi iddyn nhw gael eu stopio yn y stryd gan ddynes ifanc a gwaed yn llifo o archoll yn ei gwddo. Roedd hynny toc wedi 11yb ger gwesty’r Hilton yn Deansgate, Manceinion.

Mae tri o ddynion eraill – dau yn 26 oed ac un yn 24 oed – ynghyd â dynes 20 oed a merch 17 oed wedi cael eu rhyddhau yn gynharach ddydd Mawrth, tra bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.