Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, wedi dweud bod angen i’r Undeb Ewropeaidd fod yn “fwy hyblyg a chreadigol” er mwyn osgoi sefyllfa ‘dim cytundeb’ yn dilyn Brexit.

Daw’r sylw hwn ar drothwy cyfarfod rhwng Jeremy Hunt a Heiko Maas, sef y gweinidog sy’n gyfrifol am faterion tramor yn Llywodraeth yr Almaen.

Mae disgwyl i Brexit fod yn brif sylw rhwng y ddau heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 23), gyda dim ond 250 diwrnod tan y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019.

“Dw i am fod yn glir bod angen i’n partneriaid Ewropeaidd fod yn fwy hyblyg a chreadigol yn y trafodaethau os ydym ni am osgoi sefyllfa ‘dim cytundeb trwy ddamwain’,” meddai Jeremy Hunt.

Fe fydd y ddau hefyd yn trafod yn ystod y cyfarfod faterion sy’n ymwneud â masnach, diogelwch Ewropeaidd a therfysgaeth.