Mae elw Ryanair yn y chwarter cyntaf wedi gostwng 20% i 319 miliwn ewro (£285 million).

Mae’r cwmni hedfan yn rhoi’r bai ar brisiau teithio is, prisiau uwch am olew a chostau peilotiaid.

Dywedodd Ryanair bod y rhagolygon ar gyfer elw am y flwyddyn yn parhau’r un fath rhwng 1.25 biliwn a 1.35 biliwn ewros (£1.12bn-1.21bn), ond mae’r cwmni’n dweud bod hynny’n “dibynnu’n helaeth” ar brisiau teithio yn y chwarter yma a “dim datblygiadau Brexit negyddol.” Mae’r cwmni wedi rhybuddio am beryglon Brexit caled.

Mae disgwyl i brisiau teithio ar gyfartaledd fod yn is dros yr haf oherwydd Cwpan y Byd, y tywydd poeth ar draws gogledd Ewrop a’r ansicrwydd ynglŷn â streiciau peilotiaid, meddai Ryanair.

Mae Ryanair, fel cwmnïau hedfan eraill, wedi cael eu heffeithio gan streiciau gan staff rheoli traffig awyr yn Ewrop, gyda chwmnïau’n cael eu gorfodi i dalu iawndal i gwsmeriaid oherwydd y trafferthion.

Y llynedd bu’n rhaid i Ryanair ganslo cannoedd o hediadau oherwydd yr hyn roedd yn ei ddisgrifio fel problem gydag amserlenni gwaith peilotiaid.