Mae tri dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad ag ymosodiad asid honedig ar blentyn tair oed yng Nghaerwrangon.

Cafodd y dynion, sy’n 22, 25 a 26 oed, eu harestio yn Llundain ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol, meddai Heddlu Gorllewin Mercia.

Mae dyn 39 oed o Wolverhampton, a gafodd ei arestio ddydd Sul ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol, yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Roedd y plentyn gyda’i deulu mewn siop pan gafodd sylwedd ei “daflu neu ei chwistrellu” drosto bnawn dydd Sadwrn, 21 Gorffennaf.

Cafodd ei drin yn yr ysbyty am losgiadau i’w wyneb a’r fraich cyn cael ei ryddhau pnawn ddydd Sul.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad yn Home Bargains yn Tallow Hill.