Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable wedi wfftio’r syniad ei fod yn gofidio am ei ddyfodol yn arweinydd y blaid.

Mae adroddiadau y gallai aelod iau o’r blaid gael ei gyflwyno’n ymgeisydd i’w herio, ac yntau erbyn hyn yn 75 oed.

Fe fu yn y swydd am flwyddyn hyd yn hyn ar ôl olynu Tim Farron.

‘Chwerthinllyd’

Wrth siarad ar raglen Pienaar’s Politcs ar Radio 5 Live, dywedodd fod yr awgrym fod ei arweinyddiaeth yn y fantol yn “chwerthinllyd”.

“Yn wahanol i Theresa May a Jeremy Corbyn am resymau gwahanol, dw i yn y sefyllfa ffodus o fod â thîm o bobol unedig, ymlynol.

“Dyna’r peth diwethaf dw i’n gofidio yn ei gylch.”

Dywedodd fod ei blaid yn gwneud cynnydd ar lefel y cynghorau lleol.